Ein Cynllun
Mae Broad Energy (Wales) Limited yn paratoi cais cynllunio ar gyfer Cyfleuster Adfer Ynni (ERF) ar dir yn Chwarel Buttington, tua 3 milltir (5km) i'r gogledd ddwyrain o'r Trallwng.
Bydd Cyfleuster Adfer Ynni Chwarel Buttington yn defnyddio triniaeth thermol i gynhyrchu trydan adnewyddadwy a carbon isel ar ffurf trydan a gwres. Gellir allforio trydan i’r grid cenedlaethol i helpu rhoi mwy o sicrwydd am gyflenwadau, a gellir cyflenwi gwres i fusnesau lleol neu ddatblygiadau newydd (yn cynnwys cartrefi).
Bydd y datblygiad hwn yn defnyddio gwastraff na ellir ei ailgylchu (gweddilliol) fel tanwydd, gan helpu i leihau swm y gwastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi ac felly leihau allyriadau carbon.
Manylion yr arddangosfa
Dewch draw i'n digwyddiad ymgynghori cyhoeddus a gynhelir rhwng 2pm a 8pm yn:
Ystafell Gynadledda
Arwerthiant Da Byw y Trallwng
Buttington Cross
Y Trallwng
SY21 8SR
Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2016
Find out more